Cymdeithas Hanes Resolfen History Society

A web log for the Resolven History Society which publishes articles and stories related to Resolven and the immediate surroundings.

Saturday, June 10, 2006

Hanes Achos Y Methodistiaid Calfinaidd yn Resolfen

Daucanmlwyddiant achos y Methodistiaid yn Resolfen

Cynhaliwyd cyfarfodydd i ddathlu daucanmlwyddiant yr Achos gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn ardal Resolfen ddiwedd Medi a dechrau Hydref 1999 .

Daeth ychydig o Fethodistiaid i gydaddoli yn ffermydd yr ardal yn 1799. Yr oeddynt yn aelodau yng Nghapel y Gyfylchi , sef y capel a godwyd i William Davies Castell-nedd. Ymhen rhyw flwyddyn neu ddyw llogwyd hen gapel anwes Penydarren ganddynt , lle buon yn addoli am ryw ddeunaw mlynedd . Cynhesrwydd yn yr Ysbryd oedd nodwedd yr eglwys fach ar hyd y blynyddoedd cynnar. Adeiladwyd capel helaethach o’r enw ‘Sion’ ym 1821 yn yr Ynsyfach (Resolfen heddiw) . Tenau oedd y boblogaeth, ac ychydig oedd yr aelodau, ond buont yn ffyddlon yn eu dydd. Erbyn 1866 yr oedd Sion wedi mynd yn rhy fach i’r cynulliadau, felly tynnwyd ef i lawr ac adeiladwyd capel mwy o’r un enw yn 1868 ( gwelir ffotograff "Y Ganolfan" sef defnydd presennol adeilad Sion). Aeth Sion yn rhy gyfyng eto eto erbyn diwedd y ganrif , ac ym mis Hydref 1904 agorwyd y Tabernacl . ( Gwelir lluniau yn Capeli Cymru gan Anthony Jones) . Er hardded oedd y Tabernacl , nid oedd o ansawdd da. Penderfynwyd ymadael â’r adeilad a cheisio wyneb yr Arglwydd i’r dyfodol. Adeiladwyd y Tabernacl newydd ym 1995, gyda lle i tua 100 eistedd.

Sefydlwyd y gweinidog cyntaf , y Parch . Moses Thomas ym 1877 , er iddo fod yn y pentref am ryw ddwy flynedd cyn hynny. Bu’n weinidog am yn agos i 25 mlynedd yn Seion , yn fawr ei ddylanwad a’i barch. Y gweinidogion a’i holynodd oedd y Parchedigion W. Towy Rhys, 1897 –1911 ; David Evans , 1917-21 ; Robert Thomas BA ,BD , 1936 – 1946; Iorwerth Hughes, BA, BD, 1948 –1953; George J. Davies , BA , 1954 – 1963 ; J. Isaac Jones, BA, 1964-67 ; H. Glyn Davies, 1969 – 1986 . Mae’r eglwys wedi bod yn ddi –fugail oddi ar hynny. Ni fu’r eglwys yn un niferus erioed , yn cyrraedd 232 aelod ar ei huchaf. Erbyn heddiw , 17 yw’r aelodaeth. Ceir yma ffyddlondeb mawr , gyda chynhesrwydd yn nodwedd o’r addoliad o hyd . Cynhelir dau gyfarfod pregethu pob Sul , Ysgol Sul , cwrdd gweddi a seiat bob yn ail wythnos, a chwrdd cenhadol unwaith y mis.

Da yw cael tystio i ddaioni yr Arglwydd tuag atom dros y blynyddoedd a’i bresenoldeb eto gyda’i bobl yma.

Phylip Jones

Ymddangosodd yr erthygl yma gyntaf yn Clecs y Cwm, Rhif 217

0 Comments:

Post a Comment

<< Home