O! Ganu Bendigedig
Bu’r Eisteddfod Genedlaethol yn yr ardal hon ddwywaith yn ystod y ganrif ddiwethaf, sef yng Nghastell-nedd yn 1934 ac ym Mhentreclwyda yn 1994. Un o’r atgofion melysaf sydd gen i o’r wythnos ddifyr honno yn 1994, oedd y Gymanfa Ganu dan arweinyddiaeth Alun Tregelles Williams. Erys yr atgofion am ganu grymus y noswaith honno ( Nos Sul olaf yr Eisteddfod, nid y cyntaf fel heddiw) yn y cof am byth. Mae copi o glawr rhaglen 1994 uchod, ond beth sydd o ddiddordeb i ni fel cymdeithas hanes ydy’r rhagair a ysgrifennwyd gan ein Llywydd, Mr Phylip Jones, sef Cadeirydd Pwyllor Cerdd yr Eisteddfod honno.
RHAGAIR
Ffrwyth llafur caled mudiad y tonic sol-ffa a’r ysgol gân yw’r canu cynulleidfaol pedwar llais a gysylltir â Chymru. Dysgwyd gwerin i ddarllen cerddoriaeth lleisiol, a daeth canu mewn cynghanedd yn beth digon naturiol.
Magwyd cerddorion a gyfrannodd yn fawr i ganiadaeth y cysegr yn yr ardal hon. Ystyrid David Evans a T.Hopkin Evans ymhlith arweinyddion mwyaf y gymanfa ganu yng Nghymru yn eu dydd.
Ysywaeth daeth tro ar fyd. Peidiodd y llafur mewn ysgol gân, a’r gweithgarwch i berffeithio moliant Seion. Daeth dirywiad yn y canu pedwar llais yn ein capeli. Yr ydym yn gollwng gafael ar un o drysorau ein cendl heb wneud dim. Oherwydd hyn, rhaid oedd hepgor tonau da gan gerddorion lleol o gymanfa fel hon.
Serch hynny i gyd, y mae arlwy dda wedi ei pharatoi ac mae gan y rhan fwyaf o’r emynau neu tonau gysylltiadau lleol.
Hyderaf y bydd arddeliad yn y canu, a bendith i’r sawl “ a ganant â ysbryd ac a’r deall hefyd”.
Cyflwynwn y gymanfa i’r Hwn biau’r mawl.
PHYLIP JONES
Cadeirydd y Pwyllgor Cerdd.
Da felly yw nodi bod y rhaglen deledu, Dechrau Canu Dechrau Canmol, a ddarlledwyd ar y 15fed o Dachwedd eleni o Gapel Jerusalem, yn meddu ar lawer o’r rinweddau a nodwyd gan Phylip yn ei rhagair. Y gwahaniaeth amlycaf y tro hwn ydoedd bod bron yr holl eitemau â chysylltiad cryf naill ai gyda’r ardal neu’r tri doethur enwog. Efallai nad oedd pawb yn gwybod eu rhannau’n berffaith neu’n gyfarwydd iawn a’r emynau , hyd yn oed yn y galeri lle’n draddodiadol dylai pawb bod yn sicr o’r gwaith ( fe wnaeth Phylip nodi hyn yn gwrtais yn ystod yr “egwyl”answyddogol a gafwyd oherwydd tostrwydd i un o’r gynulleidfa). Er hyn roedd y canu o safon uchel, wedi bodloni Aled Madog yr arweinydd ac yn sicr mewn pedwar llais.
Hyderaf fod cyfraniad Cymdeithas Hanes Resolfen, ac yn enwedig ymdrechion diflino Phylip Jones wrth hyrwyddo hanes a chadw gwaith y tri doethur yn fyw, wedi chwarae rhan yn llwyddiant y rhaglen.
Trefor Jones
(For translation of article see Trefor Jones)